Dyddiad | Date: 14 Hydref 2022
Pwnc | Subject: Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad
Annwyl Manon,
Yn ei gyfarfod ar 10 Hydref, trafododd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (y Pwyllgor) adroddiad gan y Comisiynydd Safonau mewn perthynas ag achos o gamddefnyddio adnoddau’r Senedd gan Aelod o’r Senedd. Mewn gohebiaeth â’r Comisiynydd, dywedodd yr Aelod dan sylw y byddai wedi bod yn ddefnyddiol, o bosibl, cael hyfforddiant ynghylch y gofynion y mae’r Aelodau’n ddarostyngedig iddynt yn ystod cyfnod etholiad lleol.
Nododd y Pwyllgor fod yr Aelodau’n cael hyfforddiant amrywiol ar ddechrau tymor y Senedd, gan gynnwys hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad. Fodd bynnag, roedd o’r farn y byddai’n fuddiol cynyddu’r hyfforddiant sydd ar gael, neu gynyddu’r ymdrechion i hyrwyddo’r hyfforddiant sydd ar gael, drwy gydol y Senedd. Yn benodol, byddai'n ddefnyddiol atgyfnerthu dealltwriaeth ynghylch cyfrifoldebau’r Aelodau cyn cyfnod etholiad lleol.
Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn ystyried yr argymhelliad hwn cyn ymateb i'r Pwyllgor.
Yn gywir,
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.